Mae Canghellor yr Wrthblaid, Alan Johnson, yn rhybuddio y bydd toriadau’r Llywodraeth ar wario cyhoeddus yn achosi mwy o ddifrod na’r rhai a wnaed gan Margaret Thatcher yn yr 1980au.
Mae’n cyhuddo’r llywodraeth glymblaid o beryglu’r gobaith am dwf economaidd gyda thoriadau o 25% dros bedair blynedd.
Gan gyfeirio at yr argyfwng economaidd yn Iwerddon, meddai:
“Does dim rhaid inni edrych ymhell i weld beth yw effaith torri gormod yn rhy fuan.
“Fe fydd y ffordd y mae’r llywodraeth glymblaid yn gweithredu’r newidiadau yma’n newid ein cymdeithas yn sylfaenol ac yn arwain at sefyllfa lle byddwn ni’n treulio blynyddoedd yn ceisio atgyweirio’r difrod.
“Os meddyliwch am Thatcher yn yr wythdegau, y mwyaf iddi hi ei dorri oedd 10%, ac rydyn ni’n dal i deimlo’r effaith yn Hull, y ddinas yr ydw i’n ei chynrychioli.”
£83 biliwn o doriadau
Fe fydd prawf cyntaf Alan Johnson fel Canghellor yr Wrthblaid yn dod ar 20 Hydref pryd y bydd y Canghellor George Osborne yn cyhoeddi manylion £83 biliwn o doriadau o gyllidebau Whitehall.
Dywedodd Alan Johnson, a oedd yn ysgrifennydd cartref hyd nes i Lafur golli’r etholiad ym mis Mai, y byddai’n gwbl amhosibl i’w hen adran fforddio colli chwarter o’i chyllideb.
Ar yr hyn pryd, mae’n cydnabod yr angen i leihau’r ddylaed, gan ddweud na fyddai’n gwrthwynebu pob toriad a gaiff ei gynnig gan y glymblaid.
“Mae angen lleihau’r ddyled ond rhaid i hynny fod yn gyson â swyddi a thwf a dyna lle dw i’n meddwl fod y Ceidwadwyr wedi methu,” meddai.
Llun: Alan Johnson (gwifren PA)