Mae dynes o Gasgwent heddiw’n dathlu llwyddiant llawdriniaeth arloesol a roddodd iddi galon ac ysgyfaint newydd 25 mlynedd yn ôl.
Roedd Julie Bennett, 45 oed, ymhlith rhai o’r cleifion cyntaf ym Mhrydain i dderbyn trawsblaniad o’r fath, ac mae hi’n dathlu’r achlysur trwy ddychwelyd i gyfarfod staff yn ysbyty Papworth yn swydd Caergrawnt lle cafodd y driniaeth ym mis Hydref 1985.
“Wnes i erioed freuddwydio y byddwn i yma 25 mlynedd yn ddiweddarach yn bwyta teisen gyda’m llawfeddyg John Wallwork,” meddai.
“Ro’n i’n ddifrifol wael yn yr ysbyty a phan ofynnodd y meddygon am weld fy mam ro’n i’n meddwl fod hynny i ddweud wrthi fy mod i’n mynd i farw.
“Yn lle hynny, fe ges i gynnig cael fy asesu am drawsblaniad. Ers y trawsblaniad dw i wedi bod yn dychwelyd yn gyson am brofion i ysbyty Papworth, ac mae fel bod yn rhan o un teulu mawr.”
‘Difrifol wael’
Dywedodd yr Athro Wallwork, a oedd wedi cyflawni’r trawsblaniad calon-ysgyfaint llwyddiannus cyntaf yn Ewrop flwyddyn yn unig ynghynt, fod Julie Bennett wedi bod yn “ddifrifol wael”.
“Cyn y trawblaniad doedd hi ond yn pwyso pum stôn a hanner a’i hunig obaith o fyw oedd cael trawsblaniad calon-ysgyfaint,” meddai.
“Roedd y trawsblaniad ar 10 Hydref 1985 yn llawdriniaeth arloesol, a dw i wrth fy modd i fod yma heddiw’n dathlu’r garreg filltir gyda Julie.”
Llun: Julie Bennettt – dathlu chwarter canrif ers cael calon ac ysgyfaint newydd (gwifren PA)