Gleision 18 Caeredin 17
Fe fydd rhaid i’r Gleision wella os ydyn nhw eisiau ennill eu gêm nesa’ yng Nghwpan Heineken, meddai’r hyfforddwr, Dai Young.
Dim ond crafu trwodd a wnaethon nhw neithiwr yn erbyn Caeredin, gan orfod amddiffyn yn galed yn erbyn yr Albanwyr am funudau ola’r gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
“Doedden ni ddim ar ein gorau ac mae Caeredin wastad yn achosi trafferthion i ni,” meddai Dai Young (yn y llun). “Roedden nhw’r un mor gorfforol â ni ac yn beryglus gyda’r bêl yn eu llaw.”
Er hynny, roedd hyfforddwr y Gleision yn dweud mai eu camgymeriadau nhw oedd yn gyfrifol am lwyddiant Caeredin ac roedd y maswr Dan Parks wedi methu cyfres o giciau.
Y sgorio
Ar hanner amser, roedd y Gleision 13-10 ar y blaen ar ôl gorfod taro’n ôl wedi i’r Albanwyr gael cais annisgwyl wedi llanast yn llinell y Gleision.
Yr asgellwr Chris Czekaj a gafodd y cais i’r Cymry ar ôl gwaith da gan Laulala a Tito.
Yn yr ail hanner, y Gleision oedd y cynta’ i sgorio gyda chais i Laulala ar ôl rhediad cry’ gan Lee Halfpenny. Ond, gyda Parks yn methu â throsi fe sgoriodd Caeredin yn fuan iawn wedyn, gyda throsiad Paterson yn cau’r bwlch i bwynt.
Fe fydd gêm nesa’r Gleision yn Castres yn Ffrainc ac, yn ôl Dai Young, fe fydd honno’n gorfforol ac yn anodd.