Mae’r Ceidwadwyr yn ôl ar y blaen wedi tymor y cynadleddau, yn ôl y pôl piniwn diweddara’.

Yn ôl arolwg ICM yn y Sunday Telegraph, mae’r Torïaid bellach bedwar pwynt o flaen y Blaid Lafur, ar ôl bod ar ei hôl hi am y tro cynta’ ers blynyddoedd yn ystod y gynhadledd Lafur.

Roedd hynny’n union wedi ethol Ed Miliband yn arweinydd newydd ond, yn ôl yr un arolwg yma, fe lwyddodd y Ceidwadwyr i ennill y tir yn ôl yn ystod eu cynhadledd nhwthau.

Maen nhw ar 38, Llafur ar 34 a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn aros yn eu hunfan ar 18.

Yn ôl yr arolwg, roedd yna gefnogaeth i’r polisi dadleuol ar fudd-dal plant – gyda mwyafrif o 53 i 37 o blaid atal y taliadau i deuluoedd lle mae un yn talu’r raddfa uwch o dreth.

Y prawf mawr nesa’ o ran y polau piniwn fydd cyhoeddiad toriadau’r Llywodraeth ar 20 Hydref.

Llun: Ed Miliband – y bowns ar ben? (Gwifren PA)