Mae disgwyl y bydd y mwynwyr cynta’n gadael y pwll copr ac aur yn Chile tua dydd Mercher yr wythnos hon.
Roedd yna ddathlu mawr yn anialwch Atacama ddoe wrth i ddriliau lwyddo i gyrraedd y siambr danddaearol lle mae’r 33 o ddynion wedi bod yn gaeth ers 66 o ddiwrnodau.
Fe fydd angen gosod pibell ddur y tu mewn i ran ucha’r twll 2,000 o droedfeddi cyn dechrau tynnu’r dynion i fyny.
Roedd lluniau fideo wedi dangos llawenydd y dynion islaw ac roedd yna orfoleddu ar yr wyneb hefyd, lle mae teuluoedd y dynion wedi creu pentre’ tros dro o’r enw Gwersyll Gobaith.
Ond roedd yna rybudd hefyd gan Weinidog Mwyngloddio Chile, Laurence Golborne. “D’yn ni ddim wedi achub neb eto,” meddai. “Fydd hyn ddim drosodd nes y bydd pob un o’r dynion islaw wedi gadael y pwll.”
Llun: Gwersyll gobaith ddoe (AP Photo)