Fe allai guru economaidd y Democratiaid Rhyddfrydol fod yn dechrau ar frwydr gyda’i blaid ei hun tros ffioedd myfyrwyr a threth ar raddedigion.
Mae’r Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, bellach yn gwrthod y syniad, er ei fod wedi ei gefnogi eto gan gynhadledd y blaid y mis diwetha’.
Mewn llythyr at ASau’r glymblaid, mae’n dweud nad treth yw’r ffordd orau i fyfyrwyr dalu’n ôl am eu benthyciadau. Yn hytrach, mae’n cefnogi system “gynyddol”, gyda’r ad-daliadau’n codi yn ôl cyflogau’r benthycwyr.
Awgrym o godi ffïoedd
Mae yna awgrym yn y llythyr hefyd y bydd o blaid codi ffioedd myfyrwyr – cam y mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn ffyrnig yn ei erbyn.
Yn ystod ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol, fe ddywedodd arweinydd y blaid, y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, y byddai codi’r ffioedd yn “drychineb”.
Ond fe fydd rhaid dod o hyd i ffordd o roi rhagor o arian i’r prifysgolion, meddai Vince Cable.
Mae’r Blaid Lafur hefyd yn parhau i wrthwynebu’r syniad. “Ar adeg pan fo llawer o deuluoedd yn poeni’n arw am lefelau dyled bersonol, d’yn ni ddim yn credu mai ffioedd o £7,000 neu £10,000 yw’r ffordd iawn i gynnig cyllidebu sicr, sefydlog, tymor-hir i’n prifysgolion”.
Dadleuon Vince Cable
Yn ôl Vince Cable, fyddai treth ar raddedigion ddim yn pasio dau brawf – tegwch a thorri ar wario.
Mae’n ymddangos ei fod wedi derbyn dadleuon y blaid Geidwadol yn erbyn y syniad:
- Fe fyddai treth ar raddedigion yn annheg gan y byddai’n ddi-ben-draw a phobol yn talu llawer mwy na gwerth eu cyrsiau.
- Fe fyddai pobol dramor yn talu llai am eu cyrsiau – gan na fyddai dim modd eu trethu.
- Gan y byddai’n rhaid i’r Llywodraeth aros yn hwy am y taliadau, fe fyddai’r mesur yn cynyddu’r diffyg ariannol, yn hytrach na’i dorri.
Llun: Vince Cable (Gwifren PA)