Mae gobaith – ond dim sicrwydd – y bydd yr achos llys yn dechrau heddiw yn erbyn dau ddyn sydd wedi’u cyhuddo o lofruddio milwr o Gymru a phump o’i gydweithwyr.

Fwy na saith mlynedd wedi’r digwyddiad, pan gafodd y chwe phlismon milwrol eu lladd gan dyrfa fawr, mae disgwyl y bydd Hamza Hateer a Mussa Ismael al Fartusi yn wynebu’r llys canolog yn Baghdad.

Roedd Tom Keys, 20 oed, o Lanuwchllyn ger Y Bala, yn un o’r chwech – fe gafodd rhai eu saethu ac eraill eu curo i farwolaeth pan ymosododd tua 400 o bobol ar swyddfa heddlu mewn tref o’r enw Majar al-Kabir yn ne Irac.

Fe gafodd yr achos ei ohirio’r mis diwetha’ er mwyn rhoi cyfle i’r ddau ddyn deithio i’r brifddinas ac mae amheuaeth y gallai gael ei ohirio unwaith eto.

Ymgyrchu

Roedd teuluoedd y chwech, gan gynnwys Reg Keys o Lanuwchllyn, wedi bod yn ymgyrchu am flynyddoedd am gyfiawnder i’r chwech ond fyddan nhw ddim yn cael mynd i Irac i wrando ar yr achos.

Oherwydd diogelwch, mae’r Llywodraeth yn dweud bod rhaid iddyn nhw fodloni ar negeseuon e-bost o’r llys i ddweud beth sy’n digwydd.

Roedd wyth o bobol wedi eu harestio am y llofruddiaethau ym mis Chwefror eleni ond fe gafodd chwech ohonyn nhw eu rhyddhau’n ddiweddarach. Mae gwarant wedi’i gyhoeddi i arestio rhagor o bobol hefyd.

Tom Keys (MoD)