Mae Bangor wedi parhau â’u record ddiguro ar ôl curo Hwlffordd o ddwy gôl i un heddiw.

Maen nhw ym mhell ar y blaen yn Uwch Gynghrair Cymru, ond fe gawson nhw fraw i ddechrau, ar ôl i Lee Huggell sgorio i Hwlffordd ar ôl dim ond munud o chwarae.

Er hyn, fe ddalion nhw eu tir a llwyddodd Alan Bull i sgorio yn hwyr yn yr hanner cyntaf, ac ef sicrhaodd y fuddugoliaeth i’r ymwelwyr efo gôl arall ar ôl 59 munud o chwarae.

Gemau eraill

Yng ngemau eraill y gynghrair heddiw, crafodd Y Bala fuddugoliaeth yn erbyn Llanelli o un gôl i ddim, ar ôl i Chris Mason sgorio wedi 90 munud o chwarae, ond gêm ddi-sgôr oedd hi rhwng Y Drenewydd a Thref Port Talbot.