Mae’r dathlu a’r cyffro’n parhau yng ‘Ngwersyll Gobaith’ uwchben y mwynglawdd yn Chile heno, oriau ar ôl i’r tyllwyr lwyddo dorri trwodd i loches danddaearol y mwynwyr y bore yma.

Mae siampên wedi bod yn llifo a’r hetiau caled wedi cael eu diosg wrth i’r achubwyr gofleidio ei gilydd a gweiddi mewn llawenydd.

Ychydig wedi wyth y bore yma y torrodd y dril trwodd at y 33 o fwynwyr sydd wedi bod yn gaeth yno ers 66 o ddyddiau.

Roedd eu perthnasau’n chwifio baner Chile wrth i’r si fynd ar led am y torri trwodd rai munudau cyn i’r seiren gadarnhau’n swyddogol fod y siafft wedi cyrraedd y dynion.

“Dw i’n hapus iawn,” meddai Guadalupe Alfaro, sydd â’i mab Carlos Bugueno ymhlith y mwynwyr. “Dw i wedi aros mor hir am y foment yma – fe fydd fy mab yn ôl yn fuan.”

Meddai un arall o’r perthnasau: “Roedd clywed y seiren yn deimlad anhygoel. Bellach y cyfan sy’n rhaid inni ei wneud yw aros ychydig bach yn hirach.”

Dyddiau i fynd

Mae dyddiau eto cyn y bydd y dynion yn gallu dod i’r wyneb. Rhaid i beirianwyr archwilio’r siafft a phenderfynu a oes angen ei atgyfnerthu â dur.

Roedd tair ymgais ar waith ar yr un pryd i dyllu at y dynion – ond Cynllun B oedd yr un llwyddiannus gan gyrraedd lloches y mwynwyr 2,047 troedfedd o dan yr wyneb mewn 33 o ddyddiau.

“Roedd yr holl griw achub yn bloeddio mewn gorfoledd pan wnaethon ni dorri trwodd,” meddai Jeff Hart o Denver Colorado, a oedd yn gweithredu’r dril. “Does dim byd pwysicach nag achub bywydau – rydyn ni wedi gwneud ein rhan ni o’r gwaith erbyn hyn.”

Mae’r llawenydd wedi ei deimlo trwy’r wlad hefyd wrth i bobl Chile edrych ar y gwaith o achub fel prawf o gymeriad a balchder y genedl.

Penderfyniadau anodd

Ar yr un pryd mae penderfyniadau anodd i’w gwneud o ran faint o waith sydd angen ei wneud i ddiogelu’r dynion rhag creigiau’n cwympo ar eu ffordd i fyny yn y capsiwl dur.

“Mae hwn yn llwyddiant pwysig,” meddai’r gweinidog mwyngloddio Laurence Golborne, ond rhybuddiodd: “Rydyn ni’n dal i fod heb achub neb. Fydd y gwaith o achub ddim drosodd hyd nes bydd y person olaf oddi tanodd yn gadael y mwynglawdd.”

Os bydd archwiliad fideo o’r siafft yn dangos ei fod yn ddigon llyfn ac yn ddigon cryf i alluogi’r capsiwl i fynd trwyddo’n ddirwystr, y gobaith yw y bydd y dynion yn dechrau cael eu codi fesul un mor gynnar â dydd Mawrth.

Ysbyty

Ar ôl cyrraedd yr wyneb, fe fydd y dynion yn cael eu harchwilio mewn ysbyty maes lle byddant yn cael gweld hyd at dri o berthnasau agos.

Fe fyddan nhw wedyn yn cael eu hedfan mewn hofrennydd mewn grwpiau bach i’r ysbyty ranbarthol yn Copiapo lle mae 33 o welyau wedi cael eu paratoi’n arbennig ar eu cyfer.

Y bwriad yw iddyn nhw gael eu cadw yno am o leiaf 48 awr i sicrhau bod eu hiechyd corfforol a meddyliol yn ddigon da iddyn nhw fynd adref.

Llun: Rhai o’r tyllwyr yn dathlu eu llwyddiant ar ôl iddyn nhw dorri trwodd at y mwynwyr y bore yma (AP Photo/Natacha Pisarenko)