Mae Casnewydd wedi codi i’r trydydd safle yn Uwch Gynghrair Blue Square ar ôl curo Caerefrog o bedair gôl i ddim.

Roedd y perfformiad yn un cryf gan y tîm cartref, ac er i’r gwrthwynebwyr ddechrau pwyso yn yr ail hanner, fe ddangoson nhw ddigon o ddisgyblaeth i ddal eu tir.

Sam Foley a sgoriodd y gyntaf ar ôl chwe munud o chwarae, ac ef a sgoriodd yr ail ar ôl 27 munud.

Craig Reid hawliodd y ddwy arall ar ôl 62 a 70 munud o chwarae – sy’n codi nifer y goliau y mae wedi sgorio yn ystod y tymor i 11.

Bydd Sir Casnewydd yn teithio i herio Crawley nesaf, sef y tîm sydd ar frig y gynghrair.