Llwyddodd y maswr Stephen Jones i sgorio 28 o bwyntiau yn erbyn Perpignan mewn gêm gyffrous naw cais ar Barc y Scarlets y prynhawn yma.
Roedd pum cic gosb, pedwar trosiad a chais Stephen Jones yn gwbl allweddol yn llwyddiant Llanelli i ddechrau eu hymgyrch Cwpan Heineken gyda phwynt bonws wrth guro Perpignant o 43 i 34.
Gyda dau gais gan y cefnwr Rhys Priestland, yn ogystal ag 16 pwynt gan Stephen Jones, roedd y tîm cartref 26-15 ar y blaen ar hanner amser.
O fewn saith munud cynta’r yr ail hanner roedd y Scarlets wedi selio’r fuddugoliaeth gyda throsgais yr un gan Regan King a Stephen Jones. Yn ddiweddarach, fe wnaeth Jones ychwanegu tri phwynt ychwanegol gyda chic gosb i ddod â sgôr y Scarlets i 43.
Llun: Gareth Maule, ar y chwith, yn cael ei daclo gan Bertrand Guiry o Perpignan yng ngêm Cwpan Heineken ar Barc y Scarlets heddiw (AP Photo/Tom Hevezi)