Daeth record ddiguro Wrecsam i ben heddiw ar ôl i Wimbledon gipio’r fuddugoliaeth oddi arnyn nhw yn yr ail hanner.
Enillodd yr ymwelwyr o 1-2, er mai’r Dreigiau oedd wedi rheoli’r rhan fwyaf o’r hanner cyntaf.
Roedd Andy Mangan wedi sgorio’i gôl gyntaf o’r tymor i’r tîm cartref ar ôl 27 munud o chwarae.
Ond fe fethon nhw â manteisio ar gyfleoedd i ymestyn y sgôr, ac fe gawson nhw eu cosbi yn syth yn yr ail hanner wrth i Christian Jolley sgorio i Wimbledon.
Rashid Yussuff sicrhaodd y fuddugoliaeth i’r ymwelwyr efo saith munud o’r gêm i fynd.
Mae’r canlyniad yn golygu fod Wrecsam wedi cwympo i’r degfed safle yn Uwch gynghrair Blue Square.
Llun: Logo Wrecsam