Mae’r Cymro Christian Malcolm drwodd i rownd gyn-derfynol y ras 200m i ddynion yng Ngemau’r Gymanwlad yn Delhi.

Sicrhaodd ei le ar ôl ennill ei ras mewn 20.93 eiliad – roedd wedi dod yn ail yn y ras cyn hynny mewn 21.14 eiliad.

Sicrhaodd Elaine O’Neill le yn rownd gynderfynol ras y 200m yn ogystal, ar ôl gorffen yn drydydd wrth redeg mewn amser o 23.83 eiliad.

Fe wnaeth Gareth Warburton a Joe Thomas fynd drwodd i rownd derfynol ras yr 800m ar ôl gorffen yn drydydd yn eu rasys nhw.

Mae Rhys Williams a Dai Greene hefyd drwodd i’r rownd derfynol yn ras y 400m dros y clwydi.

Ac er i dîm medli dros 100m y merched orffen yn bedwerydd yn eu ras nhw, fe lwyddon nhw i gael record genedlaethol newydd.

David Davies

Yn y pwll, methodd y Cymro o’r Barri, David Davies, ag efelychu ei lwyddiant yn Melbourne yn 2006, gan orffen yn bumed yn y ras dull rhydd dros 1500m.

Mae’r Cymry wedi ennill pedair medal yn y pwll – a’r merched sydd wedi ennill y rheini. Roedd Jazz Carlin wedi ennill medalau arian ac efydd, ac fe wnaeth Georgia Davies a Jemma Lowe gael medal efydd yr un.

Er hyn, llwyddodd Robert Holderness i sicrhau record Gymreig newydd yn y ras 200m nofio broga’r dynion, er gwaethaf gorffen yn chweched.

Paffio a’r ddisgen

Yn y paffio mae Sean McGoldrick wedi cyrraedd rownd y pedwar olaf y pwysau bantam, ar ôl curo Jessie Lartey o Ghana, 5-2.

Ac mae Brett Morse wedi cyrraedd rownd derfynol y ddisgen ar ôl tafliad o 56.81m.

Llun: David Davies (Anna Gowthorpe/Gwifren PA)