Mae Pacistan wedi addo ailagor croesfan allweddol ar y ffin ag Afghanistan sy’n cael ei defnyddio i gludo nwyddau i filwyr Nato.

Fe wnaeth Pacistan gau’r groesfan ogledd-orllewinol yn Torkham ar 30 Medi, yr un diwrnod ag y cafodd dau o filwyr y wlad eu lladd mewn ymosodiad o’r awyr gan luoedd Nato ar y ffin.

Ddydd Mercher, fe wnaeth America ymddiheuro am yr ymosodiad gan ddweud y gellid bod wedi “osgoi’r digwyddiad trychinebus gyda gwell cydweithio â byddin Pacistan”.

Mae’r nifer cynyddol o ymosodiadau drôn gan luoedd America dros y fffin ym Mhacistan wedi arwain at densiynau rhwng y ddwy wlad.

Roedd y groesfan yn Torkham yn cael ei defnyddio’n helaeth ar gyfer cludo tanwydd, cerbydau milwrol, darnau sbâr, dillad a chyflenwadau eraill i filwyr tramor yn Afghanistan. Ers iddi gau mae ugeiniau o dryciau naill ai wedi methu â symud neu’n creu tagfeydd mewn croesfan arall, llai, i’r de-orllewin.

Mae cau’r groesfan wedi gwaethygu’r berthynas rhwng Pacistan ac America, gan ei fod wedi gadael tanceri olew a thryciau eraill yn agored i ymosodiadau gan y Taliban.

Yn yr ymosodiad diweddaraf, cafodd 29 o danceri’n cludo tanwydd i luoedd Nato eu rhoi ar dân gan wŷr arfog ychydig cyn doriad gwawr heddiw. Roedd adroddiadau i ddau blismon gael eu hanafu.

Y gobaith yw y bydd ailagor y groesfan ddydd Llun yn arwain at ddiwedd ymosodiadau o’r fath.

Llun: Trigolion lleol yn edrych ar rai o’r tanceri olew a gafodd eu rhoi ar dân y bore yma (AP Photo)