Collodd y Gweilch, 19-14, allan yn Toulon heddiw yn rownd gyntaf Cwpan Heineken.

Ond fe lwyddon nhw i sicrhau pwynt bonws am lwyddo i gadw’r sgôr o fewn trosgais.

Roedd y gêm yn un flêr efo’r ddwy ochr yn gwastraffu cyfleoedd, ac roedd hi’n gyfartal, 6-6, ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Fe aeth y Gweilch ar y blaen ar ôl tuag awr o chwarae wedi i Shane Williams groesi am gais.

Ond methodd Dan Biggar â throsi, a chadwodd y tîm cartref yn dynn ar sodlau’r ymwelwyr drwy droed Jonny Wilkinson, er iddo, yn ddigon anarferol, fethu tair cic gosb yn ystod y gêm.

Er i’r Gweilch amddiffyn yn gryf, Paul Sackey sicrhaodd y fuddugoliaeth i Toulon wrth groesi am gais ym munudau ola’r gêm.

Llun: Jonny Wilkinson (AP Photo/Claude Paris)