Rhaid i arweinydd newydd Llafur, Ed Miliband, ddatblygu dadleuon economaidd credadwy er mwyn herio’r llywodraeth glymblaid yn llwyddiannus, yn ôl cyn-sbin ddoctor Tony Blair.

Dywed Alastair Campbell, cyn-Gyfarwyddwr Cyfathrebu’r Llywodraeth, na ddylai Llafur wrthwynebu’r toriadau er mwyn gwrthwynebu, a bod angen iddyn nhw ddatblygu strategaeth ystyrlon yn erbyn David Cameron a George Osborne.

Ond er iddo gefnogi David Miliband ar gyfer yr arweinyddiaeth, dywedodd fod y brawd iau, Ed, wedi gwneud dechrau da.

Canmolodd ef am ei ‘ddoethineb’ wrth benodi’r cyn-ysgrifennydd cartref Alan Johnson fel canghellor yr wrthblaid, a haerodd hefyd y gall Llafur ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.

“Dw i’n meddwl y gall Ed ennill ac mae llawer yn dibynnu ar beth fydd yn digwydd i’r Glymblaid a llawer yn dibynnu ar beth fydd yn digwydd i’r Blaid Lafur,” meddai.

“Er nad yw ond newydd gael ei ethol fel arweinydd rhaid inni, erbyn yr adeg y daw’r toriadau, fod â naratif economaidd gredadwy – dydi hi ddim yn ddigon dweud ‘rydyn ni’n erbyn y toriadau’.

“Mae angen dangos sut yr ydych chi’n adeiladu twf a sut yr ydych chi’n datblygu strategaeth ar gyfer y dyfodol.”

Llun: Ed Miliband (Dave Thompson/Gwifren PA)