Mae llong feri 650 troedfedd ar dân yn y Môr Baltig, yn dilyn ffrwydrad ar y dec neithiwr.
Roedd y fflamau wedi cydio ar y Lisco Gloria mewn ardal forol brysur, ac roedd llongau cyfagos wedi mynd i helpu yn syth.
Mae llongau eraill dal yno, efo dynion tân yn canolbwyntio ar oeri’r llong â dŵr, er mwyn ceisio ei hatal rhag datgymalu.
Yn sgil ofnau y gallai ddatgymalu gan achosi olew i lifo i mewn i’r môr, mae Denmarc wedi anfon llong yno â chriw sy’n arbenigo mewn dygymod â’r fath ddigwyddiad. Credir fod Lisco Gloria yn cario tua 170 tunnell o olew.
Achub
Cafodd 204 o deithwyr a 32 aelod o’r criw eu hachub oddi ar y Lisco Gloria.
Roedd tri pherson wedi cael eu cymryd i’r ysbyty mewn hofrenyddion ac mae 19 arall wedi dioddef man anafiadau.
Yn ôl awdurdodau, roedd y feri yn teithio o harbwr Kiel yn yr Almaen, i ddinas Klaipeda yn Lithwania.
Does dim gwybodaeth eto ynglŷn ag achos y ffrwydrad.
Llun: (AP Photo/dapd, Axel Heimken)