Mae helyntion wedi bod yn ninas Caerlŷr heddiw, lle mae dwy garfan wrthwynebus i’w gilydd wedi bod yn cynnal protestiadau.

Yn ôl yr heddlu, fe ddaeth dros fil o aelodau o’r grŵp gwrth-Islamaidd English Defence League, a 700 o aelodau’r mudiad gwrth-ffasgaidd Unite Against Fascism i ralïau mewn gwahanol rannau o’r ddinas.

Roedd yr heddlu wedi trefnu eu cyrch mwyaf ers 25 mlynedd yn y ddinas er mwyn ceisio osgoi cyflafan. Roedd o leiaf 2,000 o blismyn yn cymryd rhan.

Er gwaetha’r ofnau am wrthdaro rhwng y ddwy garfan, rhwng aelodau’r EDL a’i gilydd y bu’r ymladd mwyaf – er i blismon gael ei anafu yn ei goes wrth ddyn nhw daflu taflegrau at yr heddlu a newyddiadurwyr.

Cafodd 13 o aelodau’r EDL eu harestio a’u cadw yn ddalfa ar droseddau’n ymwneud â’r drefn gyhoeddus. Fe fu’n rhaid i amryw ohonyn nhw gael triniaeth feddygol am wahanol anafiadau hefyd.

Gwahardd

Yn gynharach yr wythnos yma, roedd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi gwahardd unrhyw orymdeithio yng Nghaerlŷr, ond cafodd y ddwy garfan hawl i gynnal gwrthdystiadau llonydd yn y ddinas.

Cyrhaeddodd cefnogwyr yr EDL mewn bysiau trwy’r bore, a bu’r heddlu’n cadw llygad arnyn nhw wedi gwahanol dafarnau cyn eu rali. Roedd rhai’n siantio “EDL, EDL” tra bod eraill yn cludo baneri â sloganau fel “Sharia laws will destroy britain and all our british values”.

Llun: Un o gefnogwyr yr EDL wedi iddo gael ei anafu wrth i’r protestwyr gwrth-Islamaidd ymladd ymysg ei gilydd yng Nghaerlŷr heddiw (Rui Vieria/Gwifren PA)