Fydd y paffiwr o’r Barri, Andrew Selby, ddim yn cael medal yng Ngemau’r Gymanwlad yn Delhi, ar ôl colli yn y sgwâr yn Stadiwm Talkatora o drwch blewyn heddiw.
Cafodd ei guro gan Haroon Khan – brawd y paffiwr proffesiynol o Loegr, Amir Khan – a enillodd ar ôl i’r dyfarnwyr ail gyfri pwyntiau wedi i’r ornest orffen yn gyfartal ar dri phwynt yr un.
Roedd y fuddugoliaeth yn amlwg yn un felys i Khan a ddywedodd fod curo paffiwr o Brydain yn golygu mwy iddo na gwybod y bydd nawr yn cael medal efydd o leiaf.
Mae’n cynrychioli Pacistan yn y gemau, ar ôl peidio cael ei ddewis i sgwad Lloegr – roedd wedi honni ei fod wedi cael ei “rewi allan.”
Ei “waith” oedd profi i’r dewiswyr eu bod yn “anghywir”, meddai yn dilyn y fuddugoliaeth, ac i guro “Prydeiniwr”.
“Dwi wedi gwneud hynny” meddai, “mae’n fwy pwysig na’r fedal”.
Bydd Haroon Khan nawr yn wynebu Suranjoy Mayengbam o India yn y rownd gynderfynol.
Llun: (John Giles/Gwifren PA)