Mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud eu bod yn gobeithio cyflwyno cynllun ar gyfer lleihau cost petrol yn ardaloedd mwyaf diarffordd gwledydd Prydain.
Ond bydd rhaid cael cefnogaeth Comisiwn Ewrop cyn bydd modd gwneud hynny, yn ôl Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, ac mae swyddogion o’r Trysorlys wedi dechrau’r broses.
Wrth siarad yng nghynhadledd hydref Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban yn Dunfermline, Fife, dywedodd y gweinidog mai’r amcan yw cyflwyno hyd at bum ceiniog y litr o ddisgownt treth.
Y rheswm am hyn meddai, yw fod pobol sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell yn cael eu taro nid yn unig gan gostau petrol uchel, ond hefyd gan yr angen i yrru teithiau pell, a diffyg mewn trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae hyn yn “annheg” meddai.
Byddai’r cynllun yn cael ei arbrofi i ddechrau ar Ynysoedd Heledd, Ynysoedd Erch ac Ynysoedd Shetland yn yr Alban, ac ynysoedd Scilly oddi ar arfordir Cernyw. Mi allai wedyn gael ei ymestyn i ardaloedd eraill.
Mae gweithio at geisio sefydlu’r cynllun yn rhan o gytundeb clymblaid y Democratiaid Rhyddfrydol efo’r Torïaid.
Adolygiad gwariant
Rhybuddiodd Danny Alexander hefyd am y penderfyniadau “anodd” ynglŷn â gwariant cyhoeddus sy’n wynebu’r Llywodraeth cyn i’r adolygiad gwariant gael ei gyhoeddi yn yr Hydref.
Bydd y penderfyniadau yn effeithio ar bawb meddai, ond mynnodd bod angen toriadau gan fod y Llywodraeth glymbleidiol wedi “etifeddu” gwlad mewn “peryg.”