Fe fydd Aelodau Cynulliad yn trafod argymhellion ynghylch y ffordd y caiff Cymru ei hariannu yr wythnos nesaf – argymhellion sy’n cynnwys y posibilrwydd o drosglwyddo rhywfaint o gyfrifoldebau trethu i’r Cynulliad.

Y Gweinidog dros Fusnes a Chyllid, Jane Hutt, fydd yn arwain dadl ar adroddiad terfynol Comisiwn Holtham mewn sesiwn lawn o’r Cynulliad ddydd Mawrth.

Cafodd Comisiwn Holtham ei sefydlu fel rhan o gytundeb Llywodraeth Cymru’n Un i edrych ar y ffordd y mae Cymru’n cael ei hariannu. Roedd hyn yn dilyn honiadau gan Blaid Cymru ac eraill fod Cymru ar ei cholled o dan drefn fformiwla Barnett.

Cafodd rhai o’r honiadau yma eu cadarnhau yn adroddiad cyntaf y Comisiwn y llynedd, sy’n awgrymu bod Cymru ar ei cholled o tua £300 miliwn y flwyddyn o gymharu â phetai’n cael eu hariannu trwy fformiwla seilieidig ar anghenion.

Yn ogystal, mae’r Comisiwn yn argymell y dylai rhywfaint o gyllid y Cynulliad ei ariannu’n uniongyrchol â threthi sy’n cael eu codi yng Nghymru.

Mae’r pwnc o bwerau trethu i’r Cynulliad yn fater dadleuol, gyda’r mudiad True Wales sy’n ymgyrchu dros bleidlais Na yn y refferendwm ar hawliau deddfu, yn dadlau mai hawl i gynyddu trethi fyddai’r cam nesaf os bydd pleidlais Ie.

Mae’r mudiad wedi tynnu sylw at addewid gan y llywodraeth glymblaid yn Llundain i edrych ar y ffordd y mae Cymru’n cael ei ariannu os bydd pleidlais gadarnhaol yn y refferendwm.

Dadl cadeirydd y Comisiwn, yr economegydd Gerald Holtham o Aberdâr, fodd bynnag, yw na ddylai’r llywodraeth fod wedi gwneud cysylltiad o’r fath gan nad oes a wnelo’r egwyddor o gyfrifoldebau codi trethu ddim oll â phwerau deddfu.

Sail ei ddadl yw y dylai unrhyw gorff sy’n gyfrifol am wario arian cyhoeddus fod yn atebol am godi rhywfaint o’r arian hwnnw – pwerau deddfu neu beidio.

Ar yr un pryd, mae disgwyl y bydd Aelodau Cynulliad yn dangos mwy o frwdfrydedd at ddiwygio fformiwla Barnett nag at bwerau trethu i’r Cynulliad ar hyn o bryd.