Mae prif weinidogion Prydain a’r Alban ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrngedau i Albanes a gafodd ei lladd gan ei herwgipwyr yn Afghanistan yn ystod ymgais i’w hachub.
Cafodd Linda Norgrove, 36, a oedd yn wreiddiol o Swydd Sutherland yng ngogledd yr Alban, ei chipio gan wrthryfelwyr yn nhalaith Kunar bythefnos yn ôl.
Roedd hi’n gweithio i gwmni o’r enw Development Alternatives Inc ar raglenni ailadeiladu sy’n cael eu hariannu gan lywodraeth America.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor William Hague fod penderfyniad wedi cael ei wneud i anfon milwyr i geisio ei rhyddhau ar ôl i luoedd y cynghreiriaid yn Afghanistan gael gwybodaeth ynglŷn â lleoliad Linda Norgrove.
Ond yn ystod yr ymgais i’w hachub fe wnaeth y gwrthryfelwyr ei lladd.
“Yr herwgipwyr sy’n llwyr gyfrifol am y trychineb hwn,” meddai William Hague, gan ddweud fod milwyr Nato ac awdurdodau Afghanistan wedi gwneud popeth yn eu gallu i geisio ei hachub.
“O’r foment y cafodd ei herwgipio, roedd ei bywyd mewn perygl mawr. O ystyried pwy oedd yn ei dal, a’r perygl yr oedd hi ynddo, fe wnaethon ni farnu mai’r siawns orau i Linda oedd ceisio ei hachub.
“Mae’n drasiedi fod Linda wedi cael ei chymryd wrth iddi wneud y gwaith yr oedd hi’n ei hoffi mewn gwlad yr oedd yn ei charu.
“Mae’n cydymdeimlad yn fawr â’i theulu a’i chyfeillion ar yr adeg ofnadwy yma.”
Wrth dalu teyrnged iddi am ei “gwaith gwerthfawr”, dywedodd y Prif Weinidog David Cameron:
“Mae penderfyniadau ar gyrchoedd i ryddhau gwystlon bob amser yn anodd. Ond lle bo bywyd rhywun o Brydain mewn cymaint o berygl a lle gallwn ni a’n cynghreiriaid weithredu, dw i’n credu mai’r peth iawn i’w wneud yw rhoi cynnig arni.”
Ac meddai Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond:
“Roedd Ms Norgrove yn weithwraig gymorth ymroddedig a oedd yn gwneud popeth a allai i helpu pobl yn Afghanistan – gobeithio y gall cofio’r gwasanaeth dros achos dyngarol fod yn rhywfaint o gymorth i’w hanwyliaid yn eu galar.”
Llun: Linda Norgrove (Y Swyddfa Dramor/Gwifren PA)