EISTEDDFOD GADEIRIOL CRYMYCH A’R CYLCH 2010, 9fed o Hydref
Cafwyd cystadlu brwd o safon uchel yn Eisteddfod Gadeiriol Crymych a’r Cylch a gynhaliwyd ddydd Sadwrn Hydref 9fed,2010 yn Theatr y Gromlech, Crymych. Y beirniaid oedd Meinir Richards (Cerdd) a’r Prifardd Tudur Dylan Jones (llenyddiaeth a llefaru). Cyfeiliwyd yn feistrolgar gan Christopher Davies, Llanon. Y llywydd anrhydeddus oedd John M. Hughes o Landre neu “John Bach” fel yr adwaenid ef tra’n byw a gweithio yn ardal Crymych am nifer o flynyddoedd. Yn ystod y prynhawn bu cwmni o Ffrainc, mewn cydweithrediad a’r Bwrdd Croeso, yn ffilmio rhai o gystadlaethau’r plant fel rhan o’u bwriad o gyflwyno diwylliant rhai o’r gwledydd lleiafrifol.
Cyngor Cymuned Boncath fu’n gyfrifol am roi’r gadair hardd o waith celfydd Matthew Williams, Efailwen. Y bardd buddugol oedd T. Graham Williams o Gwm Tawe a hon oedd cadair rhif 74 iddo. Mae Pwyllgor yr Eisteddfod yn ddiolchgar iawn i’r holl noddwyr eleni eto, ac hefyd i’r gwragedd a fu wrthi’n ddiflino drwy gydol y dydd (a’r hwyr) yn darparu bwyd a diodydd i’r gynulleidfa, a swper blasus i’r beirniaid a’r cyfeilydd.
CYSTADLAETHAU LLEOL
Cystadleuaeth | 1af | 2il | 3ydd |
Unawd dan 9 | Shannon Mathias, Hermon | Ela Llewelyn, Brynberian | Mirain James aCatrin Freeman, Crymych |
Llefaru dan 9 | Shannon Mathias, Hermon | Catrin Freeman, Crymych | Mirain James, Crymych |
Unawd dan 12 | Esyllt Thomas, Eglwyswrw | Carys Lewid-Jones, Hermon | Joe Mathias,Hermon |
Llefaru dan 12 | Carys Lewis-Jones | Esyllt Thomas aJoe Mathias | Maisie Thompson, Cilgerran |
CYSTADLAETHAU AGORED
Cystadleuaeth | 1af | 2il | 3ydd |
Unawd dan 6 | Aled Lloyd, Rosebush | Sara Evans, Tregaron | |
Llefaru dan 6 | Aled Lloyd, Rosebush | Megan Freeman,Crymych aSara Evans, Tregaron | |
Unawd dan 9 | Sara Grug Edwards, Maenclochog | Cerys Fflur,Cwm Gwaun | Sioned Fflur Davies, Llanybydder a Sioned Phillips, Blaenffos |
Llefaru dan 9 | Cerys Fflur,Cwm Gwaun | Shannon Mathias a Sioned Phillips | Sioned Fflur Davies a Sara Edwards |
Unawd dan 12 | Ffion Phillips, Blaenffos | Ffion Gwaun, Abergwaun | Nia Lloyd, Rosebush |
Llefaru dan 12 | Nia Lloyd, Rosebush | Ffion Phillips | Lia Burge, Maenclochog |
Unawd alaw werin dan 12 | Nia Lloyd | Ffion Phillips | |
Unawd unrhyw offeryn cerdd dan 12 | Esyllt Thomas, Eglwyswrw | Mirain James, Crymych | |
Unawd dan 15 | Marged Rees, Brynberian | Ffion Ann Phillips | |
Llefaru dan 15 | Ffion Ann Phillips | ||
Unawd alaw werin dan 18 | Marged Rees | Caryl Medi Lewis, Maenclochog | Ffion Ann Phillips |
Llefaru dan 18 | Caryl Medi Lewis | Ffion Ann Phillips | |
Unawd unrhyw offeryn cerdd dan 18 | Marged Rees | Caryl Medi Lewis | |
Unawd dan 18 | Caryl Medi Lewis | James Blundall | |
Deuawd dan 18 | Marged a Ffion Rees, Brynberian | ||
Unawd allan o Sioe Gerdd | Laura Blundall, Crymych | Ilar Rees Davies,Pen Parc | James Blundall, Crymych |
Unawd dros 18 | Vernon Maher | Arwel Evans | Laura Blundall |
Llefaru dros 18 | Ilar Rees Davies | Laura Blundall | Joy Parry, Cwm Gwili a Cefn Fab |
Canu emyn dan 25 | James Blundall | Arwel Evans aLaura Blundall | |
Deuawd dros 18 | Ilar a Gwenyth,Pen Parc | ||
Parti Llefaru i Oedolion | Parti Myfanwy, Crymych | Parti Brynberian | |
Parti Unsain i Oedolion | Parti Myfanwy, Crymych | “Only Staff Allowed” Ysgol y Frenni | |
Parti Unsain oedYsgol gynradd | Parti Merched Ysgol y Frenni | Parti Bechgyn Ysgol Y Frenni | |
Parti Llefaru oed Ysgol Gynradd | Parti Ysgol y Frenni | ||
Prif Gystadleuaeth Gorawl | Cor Crymych | ||
Cyfansoddi emyn don | Meirion Wynn Jones. Aberhonddu | ||
Tlws Coffa Robina | Mair Garnon James, Llandudoch | ||
Tlws Ieuenctid Blynyddoedd 10-13 | Sion Jenkins,Llandisilio | ||
Tlws i’r Cystadleuydd mwyaf addawol dan 18 | Marged Rees, Brynberian |