Mae Menter Iaith Bro Ogwr am gael mascot newydd er mwyn hybu’r iaith ac maen nhw’n cynnal cystadleuaeth er mwyn dod o hyd i’r cymeriad delfrydol.
Maen nhw’n galw am gymorth y cyhoedd wrth greu cymeriad a fydd yn gallu mynd i ymweld â phlant a hybu’r iaith Gymraeg.
Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw un, ac mae’r fenter yn dweud y bydd gwobr i’r enillydd.
Maen nhw eisiau mascot sy’n “cŵl, hapus, creadigol, a hwylus ac a fydd yn rhoi enw da i’r fenter.”
Y dyddiad cau yw 29 Hydref, a bydd y pwyllgor rheoli yn dewis yr enillydd ar 2 Tachwedd.
Mae modd cysylltu â’r fenter ar e-bost, menter@broogwr.org, neu dros y ffôn, 01656 732 200.
Llun: Logo Menter Iaith Bro Ogwr