Mae swyddogion wedi cadarnhau fod larwm dân Y Wylfa wedi canu yn Neuadd Dyrbin yr orsaf niwclear ddydd Iau diwethaf.
Fe wnaeth tîm tân y ganolfan ymweld â’r safle’n syth, gan gadarnhau fod mwg yno oedd wedi’i achosi gan broblem gyda’r botwm electronig sy’n atal y cylchred pŵer rhag gorboethi.
Atgyweiriodd y swyddogion y botwm ac mae ymchwiliadau’n cael eu cynnal bellach i beth achosodd y broblem. Roedd staff y pwerdy wedi gadael yr adeilad mewn da bryd, medden nhw.
Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub gogledd Cymru hefyd eu galw i’r safle ond roedd y sefyllfa o dan reolaeth erbyn hynny.