Mae meddyg teulu profiadol o ardal Caernarfon wedi dweud y byddai’n “poeni am y pwysau a’r gost” y byddai agor meddygfeydd am 12 awr ac ar y Sadwrn yn ei roi ar feddygon.
Daw hyn wedi i Lywodraeth Cynulliad Cymru ofyn i fyrddau iechyd lunio cynlluniau i leihau’r baich ar adrannau damweiniau ac achosion brys.
“Dyw gweithio 12 awr ddim yn ymarferol i neb… dyw’r pedwar meddyg sydd yma ddim yn gallu bod yma rownd y rîl,” meddai’r meddyg teulu sydd eisiau aros yn ddienw.
“Mae o hefyd yn mynd i gostio mwy,” meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad mai’r nod oedd “osgoi gwaith diangen ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys”.
“Mae hyn yn cynnwys edrych ar p’un ai fyddai ymestyn mynediad i wasanaethau gofal sylfaenol yn cael effaith ar y galw am wasanaethau damweiniau ac argyfwng,” meddai.
Ond dywedodd y meddyg teulu y byddai’n ffafrio’r oriau gweithio 8am tan 6pm presennol ar gyfer meddygon teulu, a’u bod nhw’n “oriau digon hir” yn barod.
“Mae 8 tan 6 yn oriau hir – siawns y gallai pobol ddod o hyd i amser i ddod i mewn i’r feddygfa yn ystod yr amser yna,” meddai.
“Os byddan ni’n agor am oriau hirach yr un staff fydda gynnon ni. Byddai’n rhaid tynnu’r oriau yn ôl o rywle arall.”
Ymestyn oriau ‘yn anodd’
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru eu bod nhw’n “hen gyfarwydd” â’r anawsterau y mae cleifion yn eu cael wrth geisio gweld doctoriaid cyffredinol neu wasanaethau iechyd lleol.
“Gallai ymestyn oriau agor helpu i leihau’r effaith mae cleifion sydd ddim mewn argyfwng yn ei gael ar adrannau achosion brys, a hefyd lleihau nifer y galwadau anaddas y mae’r gwasanaeth ambiwlans yn eu derbyn,” meddai’r llefarydd.
Mae canlyniadau arolwg ganddyn nhw yn dangos bod 83% o gleifion wedi cael gweld eu doctor ar y diwrnod oedden nhw ei eisiau, neu’r diwrnod canlynol.
“Mae’n bwysig fod problemau’r 17% arall yn cael eu datrys hefyd,” meddai.
“Rydym yn credu dylai’r gwasanaethau a ddarparwyd weddu i anghenion y cyhoedd a’r cleifion.
“Er hynny, rydym yn cydnabod fod yr hinsawdd economaidd bresennol yn gwneud ymestyn oriau agor yn anodd iawn.
“Dylai’r penderfyniad ystyried beth sydd yn orau ar gyfer cleifion a’r cyhoedd yng Nghymru.”