Aberystwyth 3-0 Hwlffordd
Mae Aberystwyth wedi ennill eu lle yn rownd cyn derfynol Cwpan Cynghrair Loosemores ar ôl buddugoliaeth hawdd yn erbyn Hwlffordd.
Fe sgoriodd Conall Murtagh wedi 17 munud er gwaethaf dechrau da’r ymwelwyr i’r gêm.
Fe darodd Steff Edwards y trawst i’r tîm cartref ac fe arbedodd golwr Hwlffordd, Lee Idzi, ymdrech dda gan Craig Williams.
Fe aeth Jack Christopher a Richard Evans yn agos gydag ymdrechion Hwlffordd cyn hanner amser.
Ond Aberystwyth cafodd y gorau o’r ail hanner gyda Luke Powell yn ychwanegu ail gôl gydag ugain munud yn weddill.
Fe gafodd amddiffynnwr Hwlffordd, Dyfan Pierce ei anfon o’r maes ar ôl derbyn ei ail garden felen o’r gêm am drosedd ar Powell.
Fe lwyddodd Ricky Evans gyda’r gic o’r smotyn i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i Aberystwyth.