Wrecsam 0-0 Fleetwood Town
Mae golwr Wrecsam, Chris Maxwell wedi dweud bod y Dreigiau’n haeddu pwyntiau llawn ar ôl gêm gyfartal yn erbyn Fleetwood Town ar y Cae Ras.
Roedd y tîm cartref yn meddwl eu bod nhw wedi ennill y gêm ar ôl i Mathias Pogba feddwl ei fod o wedi sgorio gydag wyth munud yn weddill.
Ond penderfynodd y dyfarnwr nad oedd y bêl wedi croesi’r llinell.
Er gwaetha’r siom, mae Maxwell yn credu bod yna ddigon o agweddau positif i berfformiad Wrecsam.
“Rwy’n credu ein bod ni wedi gwneud yn dda ac yn haeddu’r pwyntiau llawn,” meddai Maxwell.
“Yn amlwg mae Fleetwood wedi gwario lot o arian dros yr haf a dros y blynyddoedd diwethaf. Mae ganddyn nhw dîm cryf, fel sy’n amlwg o’u safle nhw yn yr adran.
“Ond rwy’n credu ein bod ni wedi ymdopi’n dda gyda nhw. Roedden ni wedi dangos ein bod yn well na nhw ac fe fyddwn ni’n mynd yn bell yn y gynghrair pan mae ein goliau’n cael eu caniatáu.”