Bangor 2-1 Prestatyn

Mae Bangor wedi sicrhau eu lle yn rownd cyn derfynol Cwpan Cynghrair Loosemores ar ôl curo Prestatyn 2-1 yn Ffordd Farrar.

Roedd y fuddugoliaeth yn golygu bod y sgôr dros ddau gymal yn 4-4, ond bydd tîm Nev Powell yn mynd yn eu blaenau oherwydd y rheol goliau oddi cartref.

Roedd rheolwr Bangor wedi gwneud sawl newid i’r tîm gurodd y Seintiau Newydd 4-3 dros y penwythnos gyda’r amddiffynnwr Sean Davies yn chwarae ei gêm gyntaf a gyda chwaraewyr ifanc, Clive Williams, Tom Dix a John Owen yng nghanol y cae.

Fe sgoriodd cyn ymosodwr Bangor, Lee Hunt gôl gyntaf y gêm er mwyn rhoi’r ymwelwyr ar y blaen wedi wyth munud o’r ail hanner.

Ond fe gafodd y sgôr ei hunioni tair munud yn ddiweddarach wrth i John Owen sgorio oddi ar gic gornel Siôn Edwards.

Siôn Edwards gipiodd y fuddugoliaeth i Fangor gydag ugain munud yn weddill ar ôl i’w ymdrech fynd heibio i Jon Hill-Dunt.