Fe fydd clerigwraig yn codi arian tuag at ei heglwysi gwledig ac elusennau eraill drwy ddarllen y Beibl yn uchel mor gyflym â phosib.

Bydd y Parch. Mary Garbutt yn darllen y Beibl cyfan – sydd tua 800,000 o eiriau – mewn pedwar diwrnod diwedd y mis yma.

Dywedodd Mary Garbutt, sy’n 65 oed, ac yn rheithor ar saith eglwys ger ffin Swydd Northampton a Swydd Gaerlŷr, ei bod hi wedi darllen y Beibl cyfan dros gyfnod o flwyddyn gyda’i gŵr Robert.

Mae hi’n bwriadu dechrau darllen y Beibl am 6am bob bore, cyn gorffen yn oriau man y bore y diwrnod canlynol.

“Fe fyddai’n darllen mor gyflym ag y mae fy ngheg i’n gallu mynd,” meddai, gan ychwanegu y bydd hi’n darllen o Feibl 150 mlwydd oed yn Eglwys Great Oxenden yn Swydd Northampton.