Cafodd un o weithwyr y Llysgenhadaeth Brydeinig yn yr Yemen ei anafu gan daflegryn mortar heddiw, meddai’r Swyddfa Dramor.

Roedd y ffrwydrad, yn y brifddinas Sana’a, wedi targedu un o gerbydau y Llysgenhadaeth Brydeinig. Dywedodd swyddog yn Yemen bod tri pherson oedd yn sefyll gerllaw wedi cael eu hanafu.

“Roedd yna ymosodiad oedd yn ymwneud ag un o gerbydau’r Llysgenhaty Prydeinig yn Sana’a y bore ma,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor. “Cafodd un o weithwyr y Llysgenhadaeth Brydeinig ei anafu.”

Dywedodd y llefarydd bod y gweithiwr y tu mewn i’r car adeg yr ymosodiad.

Daw’r ffrwydrad deuddydd ar ôl i awdurdodau Yemen gryfhau’r diogelwch o amgylch llysgenhadaethau yn y brifddinas ar ôl sïon bod Al Qaida yn mynd i ymosod.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, wrth Radio 5 bod “pob un o’n diplomyddion yn aros adref neu yn y llysgenhadaeth. Mae’n lle anodd a pheryglus i weithio ynddo.”

(Llun: Sana)