Mae’r ferch a gafodd ei hanafu’n ddifrifol pan lofruddiwyd ei mam a’i chwaer wedi dechrau arddangos ei gwaith celf yn gyhoeddus.
Mae Josie Russell, sydd bellach yn 23 oed ac yn arbenigo mewn tecstilau, wedi bod yn dangos ei gwaith ym Mhlas Newydd, Sir Fon. Mae’n gwerthu ei thirluniau o ogledd Cymru am £200.
A hithau wedi dechrau ei hoes yn Nyffryn Nantlle, fe ddaeth hi a’i thad yn ôl yno i fyw ar ôl y llofruddiaeth.
Er gwaetha’r anafiadau i’w phen, fe lwyddodd Josie Russell yn yr ysgol a chael gradd mewn dylunio graffig.
Ffeiriau
Mae’n bwriadu teithio o amgylch Cymru a dangos ei gwaith mewn ffeiriau Celf.
Ar ei gwefan mae’n dweud ei bod “wrth ei bod” gyda byd natur a cherdded “mynyddoedd Eryri”.
Roedd yn gwybod o’r dechrau, meddai nad oes rhaid i waith celf hardd ac unigryw “gostio cannoedd o bunnoedd” i’w greu.
Josie – y cefndir
Bedair ar ddeg o flynyddoedd yn ôl – fe ymosododd dyn o’r enw Michael Stone arni hi, ei mam a’i chwaer Megan gan eu curo gyda morthwyl. Roedden nhw’n byw yng Nghaint ar y pryd.
Dim ond naw oed oedd Josie ac fe ddaethpwyd o hyd iddi’n gorwedd yn anymwybodol ger cyrff ei mam a’i chwaer.
Fe ddaeth drwyddi a llwyddo i helpu’r heddlu gyda’r hyn yr oedd yn ei gofio o’r ymosodiad.
Mae Michael Stone yn y carchar am oes a fydd yr awdurdodau ddim yn ystyried ei ryddhau tan o leia’ 2031.
Llun Gwifren PA