Roedd doctoriaid yn rhyfeddu ar ôl i ddwy chwaer gael plant o wahanol liw croen.

Fe gafodd un efeilliaid o fechgyn a’r llall ddwy ferch fach – yn y ddau achos, mae un yn ddu a’r llall yn wyn. Mae’r ddwy chwaer o liw cymysg ond gwyn yw’r tadau.

Er bod yr ieuenga’ o’r plant bellach yn 5 oed, dim ond yn awr y mae’r achos yn yr Unol Daleithiau’n cael sylw rhyngwladol.

Fe ddywedodd Sonia Harris, 40 oed, o Alabama, ei bod mewn sioc pan gafodd ei gefeilliaid 5 oed, Cameron a Kyle, eu geni.

‘Anghyffredin’

“Fe ddywedodd y doctoriaid ei fod yn anghyffredin iawn, ond ei fod yn gallu digwydd,” meddai Sonia Harris.

“Dyw pobol ddim yn sylwi eu bod nhw’n efeilliaid i ddechrau ac, er nad ydyn nhw’n union yr un ffunud, unwaith yr ydw i’n dweud wrth bobl, maen nhw’n gweld y tebygrwydd.

Fe gafodd ei chwaer, Sharon, yr un profiad gyda’i merched hithau – Paige, sy’n 7 oed ac yn groenddu, a Kayleigh, sy’n 5 ac yn wyn, gyda llygaid glas a gwallt hir, golau.

“Dyw hyn ddim yn peri ddim pryder i ni – fydden ni byth eisiau newid ein plant,” meddai Sharon.

Llun: Sylw rhyngwladol – y stori ar wefan Passion4Fashion