Mae Ysgrifennydd Cymru yn dweud y bydd hi’n ymladd tros S4C a’r Academi Filwrol yn Sain Tathan – ond mae wedi methu â rhoi unrhyw sicrwydd am ddyfodol y ddau.

Fe ddywedodd Cheryl Gillan wrth Radio Wales na allai hi ddim rhagweld beth fyddai’n digwydd yn arolwg gwario’r Llywodraeth, sy’n cael ei ddatgelu union bythefnos i heddiw.

Yn ôl y dyfalu ymlaen llaw, fe allai S4C wynebu toriadau o hyd at 24% tros bedair blynedd – er bod deddf gwlad yn gwarchod ei harian.

Mae’r cynllun anferth gwerth £12 biliwn yn Sain Tathan hefyd dan bwysau mawr oherwydd y wasgfa ar wario ar amddiffyn.

‘Ofnadwy o bwysig’

“Mae S4C yn ofnadwy o bwysig a dw i’n gwerthfawrogi darlledu Cymraeg yn fawr,” meddai, wrth gael ei holi yng nghynhadledd y Ceidwadwyr ym Mirmingham. “Ond alla’ i ddim mynd o flaen unrhyw gyhoeddiad.”

Fe ddywedodd hefyd ei bod hi’n cefnogi sefydlu’r academi hyfforddi filwrol ym Mro Morgannwg ond bod y Llywodraeth Lafur wedi gadael y Weinyddiaeth Amddiffyn mewn cyflwr ariannol difrifol.

Ond doedd hi ddim yn swnio’n hyderus y byddai’r cynllun yn mynd yn ei flaen – mae wedi ei feirniadu gan ymgyrchwyr heddwch ac eraill o fewn y maes amddiffyn ond y bygythiad mwya’ yw’r wasgfa ariannol.

Beio ‘llanast Llafur’

Yr un oedd dadl Cheryl Gillan wrth ddweud sut y byddai’r Ceidwadwyr yn ymladd etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesa’ – oherwydd Llafur, roedd rhaid gwneud toriadau ond fe fyddai hynny’n gosod Cymru mewn sefyllfa i fanteisio yn y dyfodol.

“Dw i’n siŵr y byddwn ni’n cynnig rhai mesurau positif,” meddai. “Fe fyddwn ni’n gallu cynnig amgylchedd economaidd sefydlog i bobol a busnesau. Fe fyddan nhw’n gallu bod yn llawer mwy gobeithiol oherwydd ein bod ni wedi delio gyda’r llanast ofnadwy a adawodd Llafur.

“Os na fyddwn ni’n delio gyda’r ddyled, fe fydd yn effeithio ar y genhedlaeth nesa’ a’r genhedlaeth ar ôl honno.”

Llun: Cheryl Gillan (Gwifren PA)