Fe safodd gwraig o’r Cymoedd o flaen trên i brotestio am ymddygiad cefnogwyr pêl-droed.
Bellach mae Heddlu Trafnidiaeth yn ymchwilio i’r digwyddiad, pan fu raid i’r trên roi’r gorau i’w daith, gan orfodi’r cefnogwyr i gerdded adref.
Fe ddatgelodd Lisa Robinson, 41 o Ystrad Mynach, bod y cefnogwyr wedi gweiddi sylwadau ffiaidd at pan oedd ar ei ffordd adref o Gaerdydd gyda’i gŵr a’i mab 5 oed.
Ar ôl iddi geisio rhwystro’r criw cefnogwyr rhag difrïo gwraig arall, fe droeson nhw eu sylw ati hi.
Sefyll ar y traciau
Pan gyrhaeddodd y trên yn Ystrad Mynach fe ofynnodd i’r gyrrwr ffonio’r heddlu – ond fe wrthododd.
“Dyna pryd wnes i sefyll ar y traciau o flaen y trên fel nad oedd yn gallu mynd unrhyw pellach,” meddai wrth y BBC.
Fe fu’n rhaid i’r trên ddod i stop yno ac fe gafodd yr Heddlu Trafnidiaeth eu galw yno. Maen nhw wedi cyfweld Lisa Robinson am yr hyn a ddigwyddodd.
Llun: Trên yng ngorsaf Ystrad Mynach (nantcoly CCA 2.0)