Mae Heddlu De Cymru’n ymchwilio ac yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn gael ei ladd mewn damwain ffordd yn Abertawe neithiwr.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur a bws 22 sedd a oedd yn teithio ar Ffordd y Berllan am ganol dinas Abertawe tua hanner awr wedi deg neithiwr.
Roedd dau ddyn ar y beic modur ac fe fu un farw neithiwr. Mae’r ail mewn cyflwr argyfyngus yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd.
Fe gafodd y gyrrwr bws ei anafu ond doedd dim teithwyr ar y bwrdd pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth neu a welodd y beic modur neu’r bws ymlaen llaw gysylltu â’r heddlu ar 101 neu’n ddienw trwy Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.
Llun: Arwydd Heddlu De Cymru