Mae clwb pêl-droed Lerpwl ar fin cael ei werthu i berchnogion y Boston Red Sox o’r Unol Daleithiau.
Fe gafodd y fargen ei derbyn o ran egwyddor neithiwr – er gwaetha’ ymdrech gan y perchnogion presennol i’w rhwystro.
Fe fydd angen cytundeb yr Uwch Gynghrair i gwblhau’r gwerthu ond mae’n ymddangos yn eitha’ sicr y bydd y crysau coch yn mynd i ddwylo’r sanau coch a chwmni New England Sports Ventures, sydd hefyd yn berchnogion ar nifer o fentrau chwaraeon eraill yn yr Unol Daleithiau.
Mae’n golygu y bydd dyled anferth y clwb yn cael ei dileu – roedd y prynwyr diwetha’ wedi gorfod benthyg yn drwm.
Ffraeo
Fe ddaeth yn amlwg bod ffraeo mawr wedi bod mewn cyfarfod o fwrdd Lerpwl neithiwr, wrth i’r perchnogion Tom Hicks a George Gillett geisio rhwystro’r gwerthiant a chael gwared ar rai o’r cyfarwyddwyr eraill.
Ond, ar wefan y clwb, fe ddywedodd y Cadeirydd, Martin Broughton, ei fod “wrth ei fodd” eu bod nhw wedi llwyddo i werthu.
Roedd y clwb wedi derbyn dau gynnig posib cyn penderfynu yn y diwedd mai’r NESV oedd yn cynnig y cyfle gorau.
“Ennill yw canolbwynt athroniaeth NESV,” meddai Martin Broughton. “Maen nhw wedi dangos hynny’n glir gyda’r Red Sox.”
Llun: Anfield, stadiwm Lerpwl (Gwifren PA)