Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru’n galw am wahardd ysmygu mewn ceir sy’n cario plant – gan gynnwys ceir teulu.
Fe ddywedodd Dr Tony Jewell bod marwolaethau oherwydd ysmygu yn dal i fod yn rhy uchel a bod y gost i’r Gwasanaeth Iechyd yn ormod.
Mae’n dweud bod eisiau ymestyn y gwaharddiadau ar smocio gan gynnwys gwarchod plant rhag mwg pobol eraill – does dim gwaharddiad ar hyn o bryd mewn ceir preifat.
Gydag un o bob pedwar o bobol Cymru’n ysmygu, mae’n gyfrifol am tua 5,650 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru.
Roedd effeithiau ysmygu ar iechyd pobl wedi costio £386 miliwn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol dros flwyddyn 2007/8, meddai’r Prif Swyddog – sef 7% o’r holl wario ar iechyd.
‘Annheg’ – sylwadau Tony Jewell
“Mae pobol yn ymwybodol bod ysmygu yn arferiad peryglus, ond maen nhw’n dewis anwybyddu’r ffeithiau,” meddai Dr Tony Jewell.
“Allwn ni ddim ond gwneud hyn a hyn- r’yn ni’n rhoi gwybodaeth i bobol er mwyn iddyn nhw allu gwneud penderfyniad gwybodus. R’yn ni hefyd yn cynnig cymorth os ydyn nhw am roi’r gorau i ysmygu – ond mae’r gweddill yn dibynnu arnyn nhw.
“Mae’n annheg bod plant yn cael eu heffeithio gan arferion pobol eraill. Dyw’r rheolau presennol yng Nghymru ddim yn cynnwys gwahardd ysmygu mewn cerbydau preifat.
“Fe ddylai Llywodraeth y Cynulliad ystyried sut y gallen nhw wneud mwy i warchod pobol rhag mwg ail law, megis cyfyngiadau ar ysmygu mewn ceir, yn enwedig lle mae plant.
“Fe fydden ni hefyd yn annog rhieni i beidio ysmygu yn eu cartrefi.”