Mae’r BBC’n honni bod dyn a gafodd ei ladd gan yr Unol Daleithiau ym Mhacistan yn mynd i arwain cyrchoedd gwaedlyd yng ngwledydd Prydain.
Yn ôl gohebydd amddiffyn y rhaglen Newsnight, roedd ffynonellau o fewn y gwasanaethau cudd ym Mhacistan yn dweud bod Abdul Jabbar wedi’i benodi’n arweinydd ar grŵp o’r enw Byddin Islamaidd Prydain Fawr.
Roedd ganddo basport Prydeinig a gwraig yng Ngwledydd Prydain, er ei fod bellach yn byw yn y Punjab ym Mhacistan.
Roedd yn un o bedwar terfysgwr honedig a gafodd eu lladd mewn ymosodiad gan awyren ddi-beilot ar 8 Medi.
‘Cynllwyn’
Fe ddaeth yr ymosodiad hwnnw ac eraill tebyg oherwydd honiadau am gynllwyn i gynnal ymosodiadau terfysgol yn rhai o brif wledydd Ewrop.
Yn ôl yr wybodaeth, a ddaeth i’r amlwg gynta’ yn yr Unol Daleithiau, y bwriad oedd ymosod ar bobol gyffredin a’u lladd – yn debyg i ymosodiad ym Mumbai yn yr India yn 2008.
Ymosodiad ar gonfoi NATO – stori fan hyn.
Llun: Ymosodiad Mumbai (Manoj Nair CCA2.0)