Fe gafodd lorïau eu llosgi ac un gyrrwr ei ladd mewn ymosodiad ar un o gonfois NATO ar y ffordd i Afghanistan.

Fe ddigwyddodd mewn maes parcio gwesty yn ardal Quetta yng ngogledd Pacistan ac roedd diffoddwyr tân yn ceisio arbed rhagor o lorïau oedd yno.

Dyma’r chweched ymosodiad o’i fath ers i Bacistan gau un o’r prif groesfannau rhwng y ddwy wlad – roedd hynny’n brotest ar ôl i awyrennau di-beilot yr Unol Daleithiau ladd rai o’i milwyr hithau.

Mae cydweithrediad Pacistan yn hanfodol i NATO wrth iddyn nhw geisio mynd â nwyddau ac offer i mewn i gefnogi eu rhyfel yn Afghanistan

Y Taliban

Er bod NATO wedi ymddiheuro am y digwyddiad, fe gafodd croesfan Torkhan ei chau yr wythnos ddiwetha’ gan orfodi’r lorïau i fynd i groesfannau eraill.

Er nad yw’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb eto am yr ymosodiad diweddara’, nhw oedd yn gyfrifol am y gweddill.

Y gred yw bod yr ymosodiadau gan awyrennau di-beilot wedi cynyddu ddiwedd y mis diwetha’ oherwydd gwybodaeth am gynllwyn terfysgol newydd.

Llun: Map o Bacistan yn dangos ardal Quetta (Trwydded GNU)