Mae disgwyl y bydd Prif Weinidog Prydain yn rhybuddio’i blaid bod angen i’r mwy cefnog gymryd eu rhan o faich y toriadau gwario.

Fe fydd David Cameron yn gorfod gwneud ei brif araith i gynhadledd y Ceidwadwyr ar ôl gorfod ymddiheuro am atal budd-dal plant i deuluoedd lle mae un trethdalwr uwch.

Doedd hynny ddim ym maniffesto’r blaid adeg yr etholiad, meddai, ond roedd rhaid gwneud penderfyniadau anodd er mwyn datrys problemau’r economi.

Dim rhybudd

Fe ddaeth hi’n amlwg ddoe nad oedd hyd yn oed aelodau’r Cabinet wedi cael rhybudd fod y cyhoeddiad ar y ffordd.

Roedd yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, yn edrych yn anghyfforddus iawn ac yn methu â gwadu hynny wrth gael i holi ar y rhaglen deledu Newsnight.

Mae llawer o Geidwadwyr cyffredin yn flin hefyd wrth i’r pwnc reoli’r sylw o’r gynhadledd ym Mirmingham.

‘Pwysau’r wasg’ – meddai IDS

Yn ôl Iain Duncan Smith, yr Ysgrifennydd Pensiynau a Gwaith, pwysau gan y wasg oedd wedi gwthio’r Canghellor i wneud y cyhoeddiad.

Fe ddywedodd y byddai’r cyhoeddiad llawn am gynlluniau torri a gwario’r Llywodraeth ymhen pythefnos yn datrys rhai o’r problemau.

Llun: David Cameron yn siarad (Gwifren PA)