Fe fuodd merch ysgol farw yn nwylo ei thad ar ôl ‘misoedd o fwlio’, awgrymwyd heddiw.

Fe fu farw Holly Stuckey, 12 oed, o Ben y Bont ar Ogwr, ar ôl dychwelyd o’r ysgol gan gwyno am boenau yn ei brest.

Fe fu farw Holly ar 5 Medi ar ôl iddi ddychwelyd i Ysgol Gyfun Maesteg wedi gwyliau’r haf. Mae’r heddlu yn ymchwilio i’w marwolaeth, ond dydyn nhw ddim yn ei thrin fel un drwgdybus.

Ar ôl marwolaeth Holly daeth ei rheini o hyd i lythyrau wedi eu hysgrifennu gan eu merch, yn dweud ei bod hi wedi bod yn cael ei bwlio ers misoedd.

Mae ei thad, Clive Stuckey, 42, wedi pasio’r llythyrau i’r heddlu gydag enwau 13 o blant y mae o’n credu oedd yn gyfrifol am ei phoenydio hi.

‘Bwlio’

Dywedodd Keith Edwards, cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol, bod yr heddlu wedi dweud nad oedd unrhyw awgrym fod yna gysylltiad rhwng y bwlio a marwolaeth Holly.

“Mae’n amlwg bod y bobol yma’n brifo,” meddai Keith Edwards. “Mae o’n beth erchyll i ddigwydd i ferch 12 oed. R’yn ni’n cydymdeimlo â nhw.”

Ychwanegodd bod pennaeth yr ysgol, Anne Carnart, wedi bod mewn cyswllt gyda’r heddlu sydd wedi astudio’r llythyrau.

“Mae’r heddlu wedi dweud nad oedden nhw wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth oedd yn cysylltu marwolaeth sydyn Holly gyda bwlio. Maen nhw wedi astudio’r llythyrau’n fanwl.

“Fel ysgol, doedd y bwlio heb ddod i’n sylw ni. Mae’n amhosib ymateb i rywbeth heb wybod amdano.”