Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi awgrymu y bydd mamau sy’n aros gartref yn cael toriadau trethi, wrth iddo geisio tawelu’r ddadl ynglŷn â budd-daliadau plant.
Mae nifer yn ei blaid ei hun yn credu bod y sustem fyddai’n atal cartref gyda rhywun sy’n ennill dros £44,000 rhag cael budd-daliadau plant yn anfanteisiol i gartrefi ble mae un partner yn aros adref.
Dyw’r sustem ddim yn deg, medden nhw – os yw’r ddau bartner yn ennill £40,000 yr un, ychydig o dan y trothwy, fe fydden nhw’n cael cadw’r budd-daliadau.
Mae’r Ceidwadwyr, sy’n cynnal eu cynhadledd yn Birmingham yr wythnos hon, yn pryderu y bydd pleidleiswyr dosbarth canol yn anhapus gyda’r newid a fydd yn dod i rym yn 2013.
Ymysg y beirniaid oedd y AS meinciau ôl dylanwadol David Davis, a ddywedodd nad oedd y toriadau “yn syniad da”.
Heddiw amddiffynnodd David Cameron y newid, a fydd yn arbed £1 biliwn y flwyddyn i’r Trysorlys. Ond dywedodd y byddai’r Llywodraeth yn sicrhau bod eu newidiadau yn “deg i bawb”.
“Rhaid ystyried pethau eraill ydan ni wedi addo eu gwneud,” meddai David Cameron wrth BBC Breakfast. “Os ydach chi’n edrych er enghraifft ar fater y fam sy’n aros gartref, rydym ni yn trafod yng nghytundeb y glymblaid ynglŷn â chael ryw fath o lwfans treth drosglwyddadwy er mwyn helpu cyplau yn y modd yna.”