Fe ymunodd aelodau o garfan pêl droed Cymru â’r Gweinidog dros Addysg, Leighton Andrews i annog plant a phobol ifanc i ddarllen.
Roedd Gareth Bale a Chris Gunter mewn sesiwn darllen gyda deuddeg o blant o Ysgol Gynradd Trelái yng Nghaerdydd.
Bwriad y sesiwn oedd dangos bod darllen llyfrau a chylchgronau plant yn hwyl ac yn gallu codi lefelau llythrennedd yn y dyfodol.
Fe ddaeth ymweliad y chwaraewyr cyn lansio Cynllun Llythrennedd Genedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn yr hydref.
Nod y strategaeth yw annog bechgyn a merched i ddatblygu a gwella eu sgiliau sylfaenol, gan godi lefelau cyrhaeddiad.
“Mae meithrin brwdfrydedd yn gynnar mewn bywyd yn ddechrau da at y dyfodol,” meddai’r Gweinidog dros Addysg, Leighton Andrews.
“Dw i’n falch iawn bod yr aelodau o garfan pêl-droed Cymru, er eu bod mor brysur yn paratoi at chwarae gemau, wedi gallu neilltuo amser i ddarllen gyda’r plant o Ysgol Trelái.
“Mae gan y plant barch at y chwaraewyr, ac os gallan nhw ddangos bod darllen yn ddiddorol ac yn hwyl, dw i’n siŵr y bydd hynny’n sbarduno’r plant eraill yn eu dosbarth i ddarllen hefyd.”