Mae Plaid Cymru yng Ngwynedd wedi croesawu addewid gan Brif Weithredwraig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr nad oes cynlluniau i gau ward ganser Alaw yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Ond mae un o staff yr ysbyty’n dweud y bydd angen gweld bod y ward yn ddiogel cyn credu dim.
Roedd y Brif Weithredwraig Mary Burrows wedi gwneud ei datganiad yn sgil pryderon bod bwriad i gau’r ward wrth i’r Bwrdd ystyried patrwm ei wasanaethau.
“Rydyn ni’n amlwg yn falch iawn y bydd gwasanaeth trin canser yn parhau yn Ward Alaw,” meddai Dyfed Edwards, Arweinydd grŵp Plaid Cymru yng Ngwynedd cyn dweud fod Mary Burrows ag ef wedi “cytuno i drefnu cyfarfodydd cyson i rannu gwybodaeth a thrafod dyfodol y ddarpariaeth iechyd yng Ngwynedd”.
Fe gafodd y Bwrdd eu beirniadu am fethu â chlirio’r ofnau am ddyfodol y ward ac, yn ôl Dyfed Edwards, roedd cynghorwyr Plaid Cymru a’r Aelodau Cynulliad a Seneddol lleol wedi “derbyn galwadau lu” gan bobol leol yn mynegi pryder.
Fe ddywedodd yr Arweinydd y byddai newid mewn poblogaeth, demograffeg a chyllid yn golygu bod gofynion iechyd “yn sicr o newid,” ac y byddai gofyn gweithio gyda’r Bwrdd Iechyd i “gynllunio a datblygu’r newid hwnnw mewn ffordd strwythuredig a threfnus”.
Barn un o staff yr ysbyty
Fe ddywedodd gweithwraig yn Ysbyty Gwynedd wrth Golwg360 ei body hithau’n “hynod o falch” o glywed yr addewid. Ond fe fyddai’n rhaid iddi “weld drosti’i hun i gredu”, meddai.
“Dw i’n gobeithio nad distewi y mae’r stori cyn ail ddechrau eto,” meddai cyn dweud nad yw’n teimlo fod rheolwyr yn ‘agored’ gyda staff am y toriadau.
“Maen nhw fel eu bod nhw’n creu swyddi i bobol yn eu dillad eu hunain sydd ddim angen iddyn nhw fod yno ac yn torri lawr ar staff iwnifform sy’n gofalu.
“Mae’r ardal rili angen y ward hon – yn fwy na’r un ward arall yn yr ysbyty bron….Beth am yr henoed heb blant? Pwy sydd am ddod i’w gweld nhw yn Ysbyty Glan Clwyd?
“Mae’r ward mor brysur – mae wastad yn llawn yno. Mae’n hollol wallgof meddwl ei chau hi pan nad oes yna byth welyau rhydd yno.”