Mae plant Ysgol Capel Garmon ger Llanrwst yn chwilio am fodd i gysylltu â theuluoedd y 33 mwynwr sy’n sownd o dan y ddaear yn Chile, er mwyn gallu anfon cân atyn nhw.

Maen nhw wedi ysgrifennu ‘Hwiangerdd Esperanza’ dan arweiniad y bardd, Myrddin ap Dafydd, a’r cerddor, Gai Toms.

Ac maen nhw am ei chyfieithu a’i recordio, a’i danfon i deuluoedd y dynion sydd wedi bod yn sownd o dan ddaear ym mhwll aur a chopr San Jose, Copiapo, ers 5 Awst.

Heddiw, fe ddywedodd Arlywydd Chile bod gobaith y bydd y dynion yn cael eu rhyddhau o fewn yr wythnosau nesa’, ychydig yn gynt na’r disgwyl.

Mae’r hwiangerdd wedi’i henwi ar ôl merch un o’r mwynwyr caeth – fe gafodd ei geni ar 15 Medi a’i henwi’n Esperanza, sef y gair Sbaeneg am ‘obaith’.

‘Teimladwy’

Yn ôl Myrddin ap Dafydd, mae’r hwiangerdd yn “deimladwy iawn” ac yn mynegi gobaith y plant “y bydd tro ar fyd yno’n fuan”.

“Mae’r plant wedi eu cyffroi ac wedi’u cyffwrdd wrth fod yn rhan o hyn,” meddai.

Gai Toms a gyfansoddodd yr alaw ac ef sy’n hyfforddi’r plant ar gyfer ei recordio. Mae hefyd yn trefnu bod y geiriau a’r neges yn cael eu cyfieithu i Sbaeneg.

“Rydym yn gobeithio y bydd y gân yn rhywfaint o gysur i’r mwynwyr a’u teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn,” meddai Gai Toms, “ac ar yr un pryd, yn creu cysylltiadau rhyngwladol.”

Hwiangerdd Esperanza

Seren newydd yn y nos
Mor dlos yn fagddu’r gwaith,
I’r gromlech ddofn o dan y tir
Mor hir y bu ei thaith.

Tywyllwch y teuluoedd
Cannwyll wen o’r nefoedd
Golau yn y gwaelod isa’
Seren Esperanza.

Heno, heno cysgod sydd,
Mae’r dydd yn ogof fawr
Drwy’r hiraeth daw ei llygaid del
Fel angel bach y wawr.

Wedi’r misoedd unig
Wedi’r carchar du
Wedi ofni’r gwaetha’
Fflamau Esperanza.

Llythyr

Mae’r plant am anfon llythyr hefyd, sy’n cydymdeimlo â’r teuluoedd ac yn sôn am eu gobaith y bydd y dynion yn cael eu hachub yn fuan, yn ogystal â sôn fod Cymru yn gyfarwydd a damweiniau dan ddaear mewn pyllau glo, chwareli a mwynfeydd.

‘Annwyl Ffrindiau,

Dosbarth o blant saith i unarddeg oed mewn ysgol fach o’r enw Capel Garmon mewn gwlad fach o’r enw Cymru ydan ni.

Rydan ni yn rhannu eich tristwch chi a’r tri deg tri o fwynwyr sydd wedi eu dal dan ddaear ym Mhwll San Jose. Ein gobaith ni yw y bydd pob un ohonynt yn cael eu hachub yn fuan iawn.

Rydym hefyd wedi clywed am enedigaeth Esperanza ac rydym wedi cyfansoddi cân i ddathlu ei geni ac i roi cysur a golau i’r mwynwyr a’u teuluoedd.

Yma yng Nghymru rydym yn gyfarwydd â llawer o ddamweiniau dan ddaear mewn pyllau glo a chwareli a mwynfeydd – ond rydym hefyd yn cofio bod dewrder a chyfeillgarwch yn bwysig ar adegau fel hyn.

Croeso i Esperanza! A gobeithio y bydd Esperanza yn dod â’r teuluoedd yn ôl at ei gilydd cyn hir,

Dymuniadau gorau

Harri               Haf
Stuart             Jacob
Arthur             Beca
Sam               Meleri
Twm               Robin
Thomas          Glain
Carwyn          Caron

Bywyd newydd

Roedd cyfansoddi’r hwiangerdd yn deillio o weithgareddau oedd wedi cael eu cynnal yn yr ysgol gan Myrddin ap Dafydd a Gai Toms.

Roedden nhw’n rhan o gynllun ‘Bro Ni’, sydd yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri a’r cyffiniau, er mwyn nodi 60 mlynedd ers sefydlu’r parc.

Cafodd artistiaid, cerddorion a beirdd eu comisiynu i weithio gyda 13 o ysgolion cynradd yr ardal. Yr amcan oedd i bob ysgol ddewis nodwedd tirlun lleol oedd yn cynrychioli hunaniaeth eu hardal, a chreu gwaith creadigol yn seiliedig ar hwnnw.

Roedd Ysgol Capel Garmon wedi dewis Cromlech Gladdu’r pentref fel eu nodwedd, ac un thema a ddeilliodd o hyn oedd y gred hynafol bod plannu rhywbeth yn y tir yn arwain at fywyd newydd.

Arweiniodd hyn at y syniad o glymu’r gwaith gyda’r mwynwyr caeth.

Gall unrhyw un sydd ag awgrym ynglŷn â sut i anfon yr hwiangerdd i Chile, gysylltu â Naomi Jones o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar y rhif 01766 770 274, neu ar e-bost at naomi.jones@eryri-npa.gov.uk