Mae chwaraewr Stoke, Danny Collins, yn awyddus i anghofio am y gorffennol ar ôl cael cyfle gan hyfforddwr dros dro Cymru, Brian Flynn, i ail-danio ei yrfa ryngwladol.
Dyw’r amddiffynnwr ddim wedi chwarae ar y lefel rhyngwladol am dair blynedd yn dilyn dwy ffrae gyda’r cyn hyfforddwr, John Toshack.
Ond gydag ymddiswyddiad Toshack mis diwethaf, fe ddaeth cyfle i Collins wisgo’r crys coch unwaith eto.
‘Wrth fy modd’
“Mae’n neis cael bod yn ôl yn y garfan. Ro’n i wedi siarad gyda Brian wythnos diwethaf pan ddaeth i weld beth oedd y sefyllfa,” meddai Collins. “Fe ofynnodd i mi ddod ‘nôl ac rwyf wrth fy modd ei fod wedi gofyn.
“Dw i wedi gweld eisiau chwarae i Gymru. Dw i ddim eisie penwythnosau bant yn gwylio’r gemau. Dw i’n gobeithio gallu bod yn rhan o dîm fydd yn mynd ymlaen i chwarae yn un o’r prif gystadlaethau.”
Fe fydd Cymru’n chwarae yn erbyn Bwlgaria nos Wener ac fe allai Danny Collins gael y cyfle bryd hynny i ail ddechrau ei yrfa ryngwladol yn erbyn yr un tîm oedd yn ei gêm ddiwethaf i’w wlad.
Bwlgaria – eto?
Fe chwaraeodd Collins yn erbyn Bwlgaria mewn gêm gyfeillgar ym mis Awst 2007, ond fe dynnodd yn ôl o’r garfan i wynebu’r Almaen a Slofacia mewn gemau rhagbrofol ar gyfer Ewro 2008.
Fe honnodd yr amddiffynnwr bod angen iddo wella ei ffitrwydd ac fe benderfynodd aros i ymarfer gyda Sunderland- ei glwb yr adeg hynny.
Ond mae bellach wedi cadarnhau ei fod wedi cael ffrae gyda Toshack ac na chafodd ei ddewis i chwarae i Gymru eto.