Sêr Dewi 1 Cei Newydd 8
Dychwelodd y Cei Newydd i frig tabl Adran Un Cynghrair Cost Cutter Ceredigion gyda buddugoliaeth ysgubol yn Llanddewi.
Roedd y tîm cartref heb eu pum myfyriwr ond roedd yr ymwelwyr hefyd wedi chwarae pêl droed gwefreiddiol o’r dechrau.
Roedd Cei Newydd wedi mynd ddwy gôl ar y blaen o fewn y deg munud cyntaf yn dilyn dau beniad arbennig o dda gan Siôn Jones a Mathew Mousley.
Daeth llygedyn o obaith i’r tîm cartref wedi hanner awr wrth i Arwel Jones sgorio o’r smotyn ar ôl i Peter Bradley syrthio yn y cwrt cosbi.
Ond fe drodd prynhawn Arwel Jones yn hunllef wrth iddo dderbyn cerdyn coch am dacl hwyr gan adael ei dîm i frwydro un yn brin am weddill y gêm.
O ran bod yn gystadleuaeth o werth, roedd y gêm wedi dod i ben cyn yr egwyl wrth i Craig Richardson, Chris Atkinson a Mark Davies ei gwneud yn 5 – 1.
Amddiffynnodd Sêr Dewi yn ddygn yn yr ail hanner a wnaeth y Cei Newydd ddim llwyddo i sgorio eto tan chwarter awr olaf y gêm. Ond unwaith eto agorodd y llifddorau yn erbyn bechgyn blinedig Sêr Dewi.
Fe aeth Chris Atkinson ymlaen i sgorio tair gôl i ychwanegu at ei un gynharach.
Mae Sêr Dewi wedi chwarae’r timau ar y brig i gyd yn gynnar eleni ac yn ôl y perfformiad yma bydd hi’n anodd iawn gweld neb yn well na’r Cei wrth iddyn nhw geisio ennill y bencampwriaeth am y tro cyntaf yn ei hanes.
Anfonwyd yr adroddiad hwn i Golwg360.com gan John Jones.
Oes gyda chi adroddiad chwaraeon lleol o’ch ardal chi? Gyrrwch hi at gol@golwg.com