Fe fydd ymosodwr Castell-nedd, Lee Trundle, yn wynebu’r clwb a ddaeth â sylw iddo ar y dechrau – Y Rhyl – yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru mis nesaf.

Fe fydd Castell-nedd yn herio’r tîm o Glwyd ar y Gnoll ar ôl i gemau’r drydedd rownd gael eu cyhoeddi gan ddau golwr rhyngwladol Cymru, Wayne Hennessy a Boaz Myhill, yng Nghaerdydd y prynhawn yma.

Mae yna ddwy gêm sy’n cynnwys timau o Uwch Gynghrair Cymru yn herio ei gilydd, sef Y Seintiau Newydd yn wynebu Airbus UK ar lannau Dyfrdwy a Llanelli’n croesawu Aberystwyth i Barc Stebonheath.

Rhai o’r pigion eraill

Fe fydd deiliaid presennol Cwpan Cymru, Bangor, yn chwarae gartref yn erbyn Bryntirion Athletic, tra bod Port Talbot oddi cartre’ yn erbyn Gwalchmai.

Fe fydd rhaid i Gaerfyrddin deithio i Barc Glanhafod i herio pencampwyr adran un Cynghrair MacWhirter, Goetre Utd.

Fe fydd Porthmadog, a ddisgynnodd allan o Uwch Gynghrair Cymru tymor diwethaf yn chwarae gartref yn erbyn Y Bala, y tîm sydd ar waelod tabl uwch gynghrair Cymru ar hyn o bryd.

Mae’r gêmau wedi cael eu trefnu i’w chwarae erbyn 6 Tachwedd.

Trydedd rownd Cwpan Cymru

Aberaman Athletic v Derwyddon Cefn
Airbus UK v Y Seintiau Newydd
Dinas Bangor v Bryntirion Athletic
Bow Street v UWIC
Caersws v Tref Llanidloes
Cambrian & Clydach v Tref Prestatyn
Corus Steel v Grange Harlequins
Gap Cei Conna v Porth
Goetre Utd v Tref Caerfyrddin
Cegidfa v Rhos Aelwyd
Gwalchmai v Port Talbot
Hwlffordd v Hotspur Caergybi
Llanelli v Tref Aberystwyth
Castell-nedd v Y Rhyl
Y Drenewydd v Tref Pen-y-bont
Porthmadog v Y Bala