Mae Gareth Thomas wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at chwarae dros Gymru unwaith eto wrth iddo baratoi i gynrychioli’r tîm rygbi cynghrair.
Fe fydd Cymru’n wynebu’r Eidal nos yfory mewn gêm gyfeillgar sydd wedi ei hail drefnu ar ôl cael ei chanslo dydd Sul diwethaf oherwydd glaw trwm.
Mae’r gêm gyfeillgar yn rhan o baratoadau’r Cymry ar gyfer cystadleuaeth Cwpan Ewrop sy’n dechrau ddydd Sul yn erbyn yr Alban.
“Mae’n beth da i allu dechrau chwarae eto. Dw i’n edrych ymlaen at fynd mas ar y cae yn dilyn rhai misoedd allan gydag anaf. Dw i hefyd yn edrych ymlaen at gynrychioli fy ngwlad unwaith eto,” meddai Gareth Thomas.
“Mae’r gêm bwysig dydd Sul yn erbyn yr Alban, ond fe fydd y gêm yn erbyn yr Eidal yn bwysig i mi gan fod angen y chwarae arnaf.”
‘Datblygu’n dda’
Mae hyfforddwr Cymru, Iestyn Harries, wedi dweud ei fod yntau’n edrych ymlaen at weld Gareth Thomas yn chwarae.
“Mae Gareth wedi datblygu’n dda yn chwarae rygbi’r gynghrair. Fe fethodd ddiwedd y tymor felly mae angen iddo gael chwarae gemau,” meddai.